PROSIECTAU
CYNHYRCHYDD FIDEO
Adnodd i ddysgwyr Cymraeg yw hwn, mae'n edrych ar rai o hoff chwedlau Cymru er mwyn archwilio tafodieithoedd a dywediadau sy'n lleol i ardaloedd y chwedlau hynny. Yn y pecyn hwn, ceir chwedl Gelert, Twm Siôn Cati a'r Ferch o Gefn Ydfa.
IS-GYNHYRCHYDD
Ymgyrch sy'n annog defnyddio Gwyddoniaeth yn y cartref yw Terrific Scientific. Mae ar gyfer plant rhwng naw ac un ar ddeg mlwydd oed. Fy rôl i yma oed cynorthwyo'r prif dîm cynhyrchu gyda'r cynhyrciad Cymraeg.

BBC CYMRU
CYFIEITHYDD
Cafodd y pecyn adnoddau The Doctor and the Dalek ei ddylunio i gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r gêm CBBC, Doctor Who: The Doctor and the Dalek. Mae'n darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae'r cysyniadau yn cael eu defnyddio o ddydd i ddyd a mewn cyd-destun cyfrifiadureg, Fe gyfieithiais y pecyn i'r Gymraeg.
CYNHYRCHYDD
Dyma'r rhaglen astudio a gynhyrchaus ar gyfer cefnogi'r cwrs TGAU Llenyddiaeth Gymraeg newydd. Cynhyrchais yr adnodd hwn ar y cyd ag athrawon a chwmnïau cynhyrchu i greu adnodd adolygu deniadol a defnyddiol.
AWDUR
Fflic a Fflac yw'r ddau gymeriad hoff sy'n helpu disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen i ddysgu Cymraeg. Awdurais gyfres o lyfrau stori i gyd-fynd â'r eirfa a'r ramadeg sy'n cael eu cyflwyno ym Mhecyn 3 a Phecyn 4. Mae'r llyfrau ar gael fel iBooks hefyd.
CYFRANYDD
Platfform sy'n dadansoddi ffilmiau a rhaglenni teledu yw ScreenPrism. Mae'n ffynhonnell wych i unigolion sy'n asudio'r Cyfryngau, Theori Feirniadol neu Ffilm. Rwy'n cyfrannu erthyglau yn rheolaidd.