Cynhyrchydd Cynnwys Digidol
AMDANAF I
Yn wreiddiol o Fôn, yn 2006 mentrais i Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg ac Athroniaeth. Ar ôl graddio o Ysgol y Gymraeg yn 2009 ymunais â Tinopolis Interactive mewn rôl Golygydd Cynnws. Fy nghyfrifoldebau oedd golygu, prawf-ddarllen, cyfieithu, cynhyrchu cynnwys ar gyfer y cyfryngau digidol a phrint, a marchnata. Yn 2013 ymunais â thîm Adnoddau Addysgol CBAC i ymgymryd â gwaith golygu. Yn ystod fy amser yno mireiniais fy sgiliau golygu, yn enwedig o ran cynhyrchu a chyhoeddi deunyddiau addysgol. Wedi hynny, yn 2015, er mwyn datblygu yn broffesiynol a dychwelyd at fy ngwreiddiau yn y cyfryngau digidol, ymunais â thîm BBC Arlein a Dysgu fel Cynhyrchydd. Rwy'n Gynhyrchydd cynnwys gyda BBC Cymru Fyw ers 2018.
Erbyn hyn rwy'n gwneud gwaith awduro cynnwys, cyfieithu, prawf-ddarllen a golygu yn llawrydd.